Dwed wrth dy AS nesaf: Gwneud Amser i MND

A man stands at a stall with Amser i MND branding.

Cyn etholiad pwysig Cymru eleni, rydym yn gofyn i ymgeiswyr wneud ‘Amser i MND’: ymrwymiad y byddant yn hyrwyddo pobl sydd â MND ac yr effeithir arnynt ganddo yn y Senedd os cânt eu hethol.

Ar sail adborth gan y gymuned MND, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a rhanddeiliaid allweddol eraill, mae Maniffesto MND Cymru yn nodi pum maes allweddol i ganolbwyntio arnynt gyda'r nod o wella bywydau pobl sy'n byw gyda MND ac yr effeithir arnynt ganddo yng Nghymru.

  1. Darpariaeth iechyd a gofal cyffredinol ledled Cymru

  2. Tai diogel a hygyrch

  3. Cefnogi gofalwyr MND

  4. Hyrwyddo ymchwil MND

  5. Newid y dirwedd wleidyddol yng Nghymru

Rydym yn annog pob plaid wleidyddol a phob ymgeisydd i ymrwymo i'n ceisiadau i'n helpu i gyflawni Cymru sy'n rhydd o MND, a gall pawb gael mynediad amserol a chyfartal at wasanaethau.

Anfonwch y neges at eich ymgeiswyr heddiw: Amser i MND.