Gofynnwch i'ch cynghorwyr lleol drwsio tai i bobl ag MND

Dim ond 30 oed yw Charlotte. Wedi cael diagnosis o MND dwy flynedd yn ôl, mae hi'n cael trafferth addasu i'w realiti newydd.

Fel rhan fwyaf o bobl ag MND, mae angen newidiadau mawr i'w chartref. Pethau fel ramp, ac ystafell wlyb.

Mae cyllid ar gael gan gynghorau lleol i addasu cartrefi – o'r enw'r Grant Cyfleusterau i'r Anabl (DFG).

Ond mae'r broses DFG yn cymryd llawer rhy hir. Mae'n cymryd tua blwyddyn ar gyfartaledd i gael addasiadau hanfodol wedi'u hariannu.

Erbyn hynny, bydd traean o bobl ag MND wedi marw.